top of page

Amharchu a Disodli Enwau Lleoedd Cymraeg

Cwm Cneifion

Cwm Cneifion uwchlaw Llyn Idwal.

Ar fapiau'r Arolwg Ordnans mae 'Cwm Cneifion/The Nameless Cwm'. Dyma'r enghraifft fwyaf gwarthus a hurt.

Llyn Tegid

Llyn Tegid.

Ar fapiau'r Arolwg Ordnans mae 'Bala Lake/Llyn Tegid', gyda'r asiantaeth yn mynnu cynnwys yr enw Saesneg.

Mapiau

Mae'r Arolwg Ordnans yn mynnu cynnwys yr enw Saesneg 'Snowdon' er bod Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi peidio â'i ddefnyddio. Hefyd, mae'r asiantaeth yn cynnwys yr enw Saesneg 'Conwy Valley'.

Llun - capsiwn - Cyngor Sir Conwy sy'n gyfrifol am yr arwydd hwn. Oherwydd yr enw Saesneg

Rhaeadr y Graig Llwyd / Conwy Falls 

Mae arwyddion ar yr A5 ger Betws-y-coed sy'n cynnwys yr enw Conwy Falls wrth ochr yr enw Rhaeadr y Graig Lwyd. Yr enw Conwy Falls sy'n gyfrifol am fodolaeth yr enwau Saesneg Conwy Falls Forest a Conwy Falls Cafe yn yr ardal. Dyma enghraifft glir o ddisodli enw tirweddol Cymraeg.

Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru (ACGCC) sy'n gyfrifol am arwyddion ar briffyrdd, ac rydym wedi gofyn i Weinidog y Gymraeg yn Llywodraeth Cymru alw ar ACGCC i osod arwyddion newydd sy'n cynnwys enwau tirweddol Cymraeg yn unig yn lle'r rhai prsennol.

Llyn Trawsfynydd Lake.jpg

Llyn Trawsfynydd.

Mae'r arwydd hwn yn cynnwys y gair 'Lake' sy'n gwbl ddiangen. Dyma enghraifft arall o amharchu enw tirweddol Cymraeg. Rydym wedi galw ar Lywodraeth Cymru  i gyfarwyddo Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru i dynnu'r arwydd i lawr a rhoi un newydd heb yr enw 'Lake' yn ei le.

'Coed Braich Melyn Wood'.jpg

Cyfoeth Naturiol Cymru

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi gosod arwydd ger Bethesda yn nodi 'Coed Braich Melyn Wood'. Mae cynnwys y gair 'wood' yn gwahodd pobl ddi-Gymraeg, yn drigolion lleol ac ymwelwyr, i alw'r lle yn 'Braich Melyn Wood'. Rydym wedi galw ar Gyfoeth Naturiol Cymru i dynnu'r arwydd i lawr a rhoi un yn ei le gyda'r enw 'Coed Pen Braich' arno, sef yr enw priodol ar y lleoliad, a heb y gair diangen 'wood'.

Y Glyderau, Cwm Cneifion

Cydlynydd: Emyr Roberts

Cyswllt Cylch yr Iaith: Ieuan Wyn

Trefnydd Cyhoeddusrwydd: Rhys Parry

bottom of page