top of page
Porth y Santes..jpg

Datblygiadau

Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru

Llun - capsiwn - Hysbysfwrdd newydd gyda'r enw Llan Celanedd.jpg

Hysbysfwrdd newydd gyda'r enw Llyn Celanedd.

Yr Arolwg Ordnans

Mae'r Arolwg Ordnans yn ystyried rhoi Coed Cerrig y Frân yn lle The Mushroom Garden (Nant Ffrancon, Gwynedd), a Llwybr Gwregys yn lle Heather Terrace Path (Nant y Benglog, Sir Conwy) ar eu mapiau.

Llun - Coed Cerrig y Frân, Nant Ffrancon.jpg
49409612823_f12ad47f4a_5k.jpg

Cefnogaeth Cyngor Gwynedd

Ar 14 Mai eleni rhoddwyd cynnig gerbron Cyngor Gwynedd gan y Cynghorydd Einir Wyn Williams fod y Cyngor yn anfon at yr Arolwg Ordnans yn galw ar yr asiantaeth i fabwysiadu'r egwyddor o ddefnyddio enwau lleoedd tirweddol Cymraeg yn unig ar eu mapiau yng Nghymru, ac yn anfon at Lywodraeth Cymru a chynghorau sir eraill Cymru i wneud yr un modd. Cafodd y cynnig ei basio'n unfrydol.

Llywodraeth Cymru

Bydd Llywodraeth Plaid Cymru, yn dilyn addewid yn ei maniffesto, yn deddfu i warchod enwau lleoedd Cymraeg.

Neigwl.jpg

Cyngor Gwynedd

Un o'r arwyddion newydd yn Llŷn - heb yr enw Hell's Mouth.

Llun - coflech Cwt Dafydd Ross.jpg

Cwt Dafydd Ross

Mae Cyngor Cymuned Llanllechid, gyda chefnogaeth Menter Iath Gwynedd, wedi gosod coflech ar Gwt Dafydd Ross, lloches bugeiliaid ar Foel Grach, un o fynyddoedd cadwyn y Carneddau yn Eryri. Mae'r Arolwg Ordnans wedi penderfynu cynnwys yr enw Cwt Dafydd Ross ar eu map graddfa fawr o'r ardal, a bydd yn cael ei gynnwys yn argraffiad newydd y mapiau sy'n cael eu gwerthu yn y siopau.

Llun - arwydd Allt Marchogion.jpg

Allt Marchogion 

Mae Cyngor Gwynedd a'r gymdeithas dai Adra wedi penderfynu rhoi'r enw Allt Marchogion ar stad dai sy'n cael ei chodi ar gwr Bangor. Hyn yn dilyn cais gan y Cyng. Dafydd Meurig a'r Ymgyrch. Nid yw'r enw Allt Marchogion ar unrhyw arwydd ac roedd peryg iddo fynd i ddifancoll. Bellach, fel cyfeiriad post, bydd yn cael ei ddefnyddio yn ysgrifenedig ac ar lafar.

TrawsCymru-header.jpg

Gwasanaeth Bws

Mae gwasanaeth bws Trafnidiaeth Cymru (TFC) o Fangor i Gorwen (T10) wedi bod yn defnyddio enwau lleoedd Saesneg, e.e. Swallow Falls, Miner's Bridge. Mae'r Ymgyrch wedi llwyddo i gael Llywodraeth Cymru, drwy gŵyn at Gomisiynydd y Gymraeg, i gyfarwyddo TFC i sicrhau mai enwau lleoedd Cymraeg sy'n cael eu defnyddio.

Y Glyderau, Cwm Cneifion

Cydlynydd: Emyr Roberts

Cyswllt Cylch yr Iaith: Ieuan Wyn

Trefnydd Cyhoeddusrwydd: Rhys Parry

bottom of page