top of page

Cefnogi'r Ymgyrch

Byddem yn falch o dderbyn eich sylwadau chi. Oes yna enwau lleoedd Cymraeg yn cael eu amharchu a'u hanwybyddu yn eich ardal chi?

Rhowch wybod inni.

Gellwch gefnogi'r ymgyrch drwy -

 

1. Anfon at eich cyngor cymuned, eich cyngor sir ac Awdurdod eich Parc Cenedlaethol agosaf gyda chais iddyn nhw alw ar yr Arolwg Ordnans i gynnwys enwau lleoedd tirweddol Cymraeg yn unig yn eu mapiau. (Mae Cyngor Gwynedd eisoes wedi penderfynu galw ar yr Arolwg Ordnans i wneud hyn.) 

 

2. Anfon at Gomisiynydd y Gymraeg (post@comisiynyddygymraeg.cymru) gyda chais iddi alw ar yr Arolwg Ordnans i gynnwys enwau lleoedd tirweddol Cymraeg yn unig yn eu mapiau.

3. Gellwch ddefnyddio't neges barod isod i'w hanfon at yr Arolwg Ordnans (CustomerServices@os.uk). Mae'r asiantaeth yn derbyn gohebiaeth Gymraeg.

 

Annwyl Syr/Fadam,

 

Dymunaf fynegi fy ngwrthwynebiad i arfer eich asiantaeth o ddefnyddio enwau Saesneg ochr yn ochr ag enwau lleoedd tirweddol Cymraeg ar eich mapiau yng Nghymru. Mae'r arfer hon yn trin yr enwau tirweddol Cymraeg yn israddol, fel atodiadau. Dengys tystiolaeth fod hyn yn cyfrannu i ddisodli'r enwau Cymraeg, gyda'r enwau Saesneg yn cael eu defnyddio ar lafar ac yn nogfennau ac ar wefannau cyrff eraill, a'u trin fel yr enwau priodol, cydnabyddedig.

 

Dylai eich asiantaeth newid yr arfer presennol, a defnyddio enwau lleoedd tirweddol Cymraeg yn unig yng Nghymru. Edrychaf ymlaen at glywed gennych.

 

Yn gywir,

cribyn.jpg

Diolch am eich neges

Y Glyderau, Cwm Cneifion

Cydlynydd: Emyr Roberts

Cyswllt Cylch yr Iaith: Ieuan Wyn

Trefnydd Cyhoeddusrwydd: Rhys Parry

bottom of page